Ysgrifau ar Theatr a Pherfformio

Ysgrifau ar Theatr a Pherfformio

Anwen Jones
Lisa Lewis
Copyright Date: 2013
Edition: 1
https://www.jstor.org/stable/j.ctt9qhb6k
  • Cite this Item
  • Book Info
    Ysgrifau ar Theatr a Pherfformio
    Book Description:

    Dyma lyfr arloesol gan arbenigwyr yn y maes, sy’n cynnig golwg ar rai o brif gysyniadau’r astudiaeth ar theatr a pherfformio dros y blynyddoedd diwethaf.

    eISBN: 978-0-7083-2657-2
    Subjects: Performing Arts

Table of Contents

  1. Front Matter
    (pp. i-iv)
  2. Table of Contents
    (pp. v-vi)
  3. RHESTR O DDARLUNIADAU/FFIGYRAU
    (pp. vii-viii)
  4. NODYN AR GYFRANWYR
    (pp. ix-xi)
  5. NODYN AR DDYFYNIADAU
    (pp. xii-xii)
  6. CYFLWYNIAD
    (pp. xiii-xvi)
    Anwen Jones and Lisa Lewis

    Amcan y gyfrol arloesol hon yw cynnig casgliad o erthyglau ym maes Astudiaethau Theatr ac Astudiaethau Perfformio sy’n archwilio rhychwant o bynciau sylfaenol i’r ddisgyblaeth. Fe fydd yr erthyglau yn gwbl greiddiol i fyfyrwyr sydd a’u bryd ar ddehongli ac archwilio yr amryfal agweddau ar y maes hwn. Er mwyn i Astudiaethau Theatr ac Astudiaethau Perfformio ddatblygu yn feysydd trafodaeth aeddfed yn y Gymraeg, rhaid darparu deunydd arbenigol, cyfrwng Cymraeg, ar gyfer myfyrwyr y presennol a’r dyfodol; deunydd a fydd yn eu harfogi hwythau, yn eu tro, i gyfrannu at gyfoethogi a datblygu’r disgwrs yn y maes.

    Mae’r gyfrol yn...

  7. 1 GOFOD THEATR
    (pp. 1-28)
    Ioan Williams

    Fel unrhyw weithgarwch cymdeithasol, mae theatr yn gofyn am ofod, lle mae’r grwpiau gwahanol sydd ynghlwm wrtho yn medru chwarae eu rhannau priodol mewn perthynas â’i gilydd. Nid oes yn rhaid i’r gofod hwnnw fod yn adeilad arbennig. Y cwbl sydd ei angen yn y bôn yw lleoliad lle mae’r rheiny sy’n cyflwyno’r weithred (actorion) a’r rheiny sy’n tystio iddi (y gynulleidfa) yn rhydd i chwarae eu rhannau neilltuol. A dyna sy’n gwneud theatr yn wahanol yn ei hanfod i unrhyw weithred gymdeithasol arall, hynny yw, mai cyfleu gweithred yn hytrach na gwireddu gweithred mae’r actorion yn ei wneud. Yn...

  8. 2 AGWEDDAU AR THEATR EWROP
    (pp. 29-48)
    Anwen Jones

    Yn ei chronicl o ddrama a theatr Ewropeaidd, dadleua Erika Fischer-Lichte o blaid cyswllt hanfodol rhwng theatr a bywyd. Dywed ei bod hi’n bosibl rhesymoli bodolaeth theatr fel cyfrwng diwylliannol trwy gydnabod y tebygrwydd rhyngddi a’r cyflwr dynol.¹ Esbonia bod y sefyllfa theatraidd elfennol yn cynnwys yr holl agweddau ar y cyflwr a’r profiad dynol. Mewn theatr, meddai, ‘ It is always a question of . . .the creation of identity and changing identities . . . whether as a member of a culture, a nation. . . a social class . . . a family, or as an individual.’²...

  9. 3 RÔL A DYLANWAD Y CYFARWYDDWR YN Y GORLLEWIN
    (pp. 49-74)
    Roger Owen

    Er mwyn cael theatr, rhaid bod rhywun (neu rywrai) yn gyfrifol am drefnu a llywio’r gweithgarwch llwyfan. Fe all fod yn ddramodydd, yn actor neu’n drefnydd allanol. Fe all fod yn noddwr neu’n aelod o’r cwmni. Fe all weithredu fel teyrn neu ddemocrat. Fe all fod yn gyfrifol am ddewis y ddrama, am drefnu’r ymarferion, am ddethol symudiadau’r actorion, am drefnu a chreu effeithiau technegol. Fe all fod yn gweithredu’n gwbl anhysbys, neu’n amlygu ei waith felauteur.Fe all fod yn ymddangos ar y llwyfan. Pa fodd bynnag y dewisa weithredu, mae’n rhaid wrtho: a bu’n bresennol ar ryw...

  10. 4 DAMCANIAETHAU ACTIO STANISLAFSCI A MEIERHOLD
    (pp. 75-102)
    Lisa Lewis

    Roedd Constantin Stanislafsci (1863–1938), a Vsevolod Meierhold (1874–1940), yn actorion, athrawon a chyfarwyddwyr a ddylanwadodd yn fawr ar theatr yr ugeinfed ganrif yn Ewrop a thu hwnt. Er eu bod ill dau yn hanu o’r un cyd-destun theatraidd, cynnyrch tra gwahanol a gafwyd ganddynt, gwahaniaeth sydd i’w ganfod yn glir yn eu hysgrifau ynglyn â swyddogaeth y theatr, a rôl yr actor yn y weithred theatraidd. Ffocws y bennod hon yw’r ysgrifau hynny a ddaeth yn sylfaen i brif ddamcaniaethau actio’r ugeinfed ganrif.

    Erbyn heddiw, cydnabyddir mai’r actor yw prif gyfrwng y cyflwyniad theatraidd. Clymir ynghyd holl arwyddion...

  11. 5 CYMRU, CENEDLIGRWYDD A THEATR GENEDLAETHOL: DILYN Y GWYS NEU DORRI CWYS NEWYDD?
    (pp. 103-118)
    Anwen Jones

    Yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain, mae’r theatr genedlaethol yn mwynhau cyfnod o lewyrch ac o ddatblygiad digon rhyfeddol. Yn 2004, torrodd gwawr newydd ar fyd y theatr yng Nghymru pan benderfynodd Cyngor y Celfyddydau glustnodi £750,000 tuag at sefydlu cwmni theatr cenedlaethol newydd Cymraeg ei iaith. Llwyfannwyd cynhyrchiad teithiol cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru,Yn Debyg iawn i Ti a Fi ganMeic Povey, rhwng Ebrill a Mai 2004. Aeth y cwmni ymlaen i lwyfannu cynyrchiadau teithiol blynyddol, yn cynnwys clasuron Cymraeg felEsthergan Saunders Lewis (1893–1985), gweithiau gwreiddiol gan ddramodwyr adnabyddus eraill a chynnyrch diweddaraf talentau newydd...

  12. 6 THEATR ÔL-DDRAMATAIDD
    (pp. 119-141)
    Gareth Evans

    Cyn cychwyn: nid oes y fath beth â theatr ôl-ddramataidd. Nid yw’n bodoli. Nid label ydyw ar gyfer math penodol o theatr; nidgenreyw’r ôl-ddramataidd. Nid oes modd ei ddefnyddio fel term cynhwysfawr a thaclus er mwyn disgrifio arddull theatraidd penodol, gan fod modd ystyried nifer o wahanol fathau o berfformiadau fel rhai sy’n amlygu elfennau y gellir eu galw’n ôl-ddramataidd. Yn hytrach, optig damcaniaethol ydyw; ffordd o werthuso ac o ddehongli moddau ac esthetig theatraidd sydd wedi’u hamlygu ers y 1970au. Cydnabyddir yr Almaenwr Hans-Thies Lehmann fel yr un a fathodd y term, gan gyhoeddi ymdriniaeth estynedig o’i...

  13. 7 PERFFORMIO SAFLE-BENODOL
    (pp. 142-158)
    Mike Pearson

    Rhagdybiaethau sylfaenol i gychwyn . . .¹

    Mae perfformiadau safle-benodol yn cael eu creu a’u seilio ar amodau materol ac amgylcheddol y gofod aganfyddir.Maent yn cael eu creu yn y lleoliadau a’u ffurfio ganddynt. Dyma leoliadau neu sefyllfaoedd cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli, rhai naturiol a rhai gwneud, rhai hynafol a rhai modern, rhai’n drigfannau ac eraill yn adfeilion – safleoedd gwaith, chwarae ac addoli. Marchnad, capel, ffatri, eglwys gadeiriol, gorsaf drenau, amgueddfa . . .

    Maent yn golygu ymatebpenodoli saflepenodola datblygu perthynas arbennig rhwng yr hyn addarganfuwyda’r hyn addyfeisiwyd(perfformiad). Mae...

  14. 8 DIOGELWCH YR ARCHIF: CYMYSGRYWIAETH, DILYSRWYDD A HUNANIAETH YN ACHOS CASGLIAD CLIFFORD McLUCAS
    (pp. 159-180)
    Rowan O’Neill

    Yn ddiweddar, rhoddwyd llawer o sylw i bwysigrwydd yr archif yng nghyd-destun Astudiaethau Theatr a Pherfformio. Yng Nghymru, dylid ystyried prosiect Dr Heike Roms, ‘Beth yw perfformio yn Gymraeg?’, yn rhan o’r datblygiad hwn am iddo greu archif o artistiaid ym maes perfformio, a’u gweithiau, o’r chwe degau hyd at heddiw. Ar ben hynny, yn ei gwaithThe Archive and the Repertoiretrafoda Diana Taylor sut mae gallu’r cof i ymgorffori’r weithred berfformiadol yn cynnig persbectif amgen ar yr archif ysgrifenedig sydd o ddefnydd mawr wrth ailystyried prosesau hanesyddol a’r cyswllt rhwng diwylliannau. Mae’r ddwy astudiaeth o arwyddocâd i’m gwaith...

  15. 9 CORFF A CHYMUNED
    (pp. 181-200)
    Margaret Ames

    Yn y bennod hon byddaf yn benthyg fy methodoleg gan yr anthropolegydd Kathleen Stewart. Yn ei llyfr APlace on the Side of the Roadmae hi’n disgrifio bywyd ymhlith pobl cymdogaethau Appalchia yn West Virginia. Mae ei gwaith yn agor byd y bobl y tu hwnt i’r ystrydeb o’rhillbilly,sef cynrychiolaeth fwyaf adnabyddus cymunedau a broydd yr ardal. Trwy wahodd y darllenydd i ddychmygu’r sefyllfaoedd, y cymeriadau, y digwyddiadau a’r amgylchiadau sydd yn cael eu disgrifio’n fanwl, mae hi’n cyfathrebu teimlad ac ysbryd y lleoedd a’u pobl ac yn cyflwyno ffordd o fyw sydd yn diflannu, sydd yn...

  16. 10 SGWRS RHWNG DWY DDRAMODYDD: SIÂN SUMMERS A SÊRA MOORE WILLIAMS
    (pp. 201-218)

    SIÂN: Falle nad ‘ lle’ ydi’r cwestiwn, ond ‘ pam’, pan fo ’ na filoedd o awduron wedi adrodd pob stori a phortreadu pob emosiwn sydd yna yn barod. O ’ mhrofiad i, mae’n rhaid bod ganddoch chi ysfa neu dân yn eich bol yn y lle cyntaf. Am na fedrwch chi beidio, mewn ffordd.

    SÊRA: Dwi’n cytuno gyda Siân fod yr awydd cryf i gyfathrebu rhywbeth â rhywun (yn fwy na dim byd arall) yn angenrheidiol cyn bod modd ’ sgrifennu drama fydd yn cyffwrdd â chynulleidfa, ac efallai mai’r angen yna, pan ei fod yn angerddol, yw’r peth...

  17. MYNEGAI
    (pp. 219-228)