Llwybrau Cenhedloedd

Llwybrau Cenhedloedd: Cyd-destunoli'r Genhadaeth Gymreig i'r Tsalagi

Jerry Hunter
Copyright Date: 2012
Edition: 1
https://www.jstor.org/stable/j.ctt9qhbfz
  • Cite this Item
  • Book Info
    Llwybrau Cenhedloedd
    Book Description:

    Mae’r llyfr hwn yn cyd-destunoli cenhadaeth Evan Jones i’r Tsalagi (Cherokee), a hynny trwy graffu ar destunau perthnasol mewn tair iaith – y Saesneg, y Gymraeg a’r iaith Dsalagi. Dehonglir hefyd y modd y trafodid brodorion America ar dudalennau gwasg Gymraeg yr Unol Daleithiau. Awgrymir bod y berthynas rhwng y cenhadwr Cymreig hyn a’r genedl frodorol yn stryd ddwyffordd: os oedd y Cymro hwn yn dylanwadu ar y brodorion, roedd diwylliant a bydolwg y Tsalagi yn dylanwadu arno yntau hefyd. Wrth drafod y prosesau hyn, defnyddir y ‘feirniadaeth frodorol’ a arloesid yn ddiweddar gan ysgolheigion sy’n perthyn i nifer o genhedloedd brodorol America.

    eISBN: 978-0-7083-2472-1
    Subjects: Religion

Table of Contents

  1. Front Matter
    (pp. i-iv)
  2. Table of Contents
    (pp. v-vi)
  3. Gair Ynghylch Gair
    (pp. vii-vii)
  4. Diolchiadau
    (pp. viii-viii)
  5. Prolog: 1838
    (pp. 1-10)

    Daeth rhifyn cyntafY Cyfaill o’r Hen Wlado’r wasg ym mis Ionawr 1838. Nid hon oedd yr ymgais gyntaf i sefydlu cyfnodolyn Cymraeg yn yr Unol Daleithiau, ond hon fyddai’r ymgais gyntaf i lwyddo. Am weddill y bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai gwasg gyfnodol Gymraeg yr Unol Daleithiau yn ganolog i ddiwylliant Cymry America ac felly mae’n gwbl briodol ystyried rhifyn cyntafY Cyfaill o’r Hen Wladfel carreg filltir.

    Os oedd yn drobwynt yn hanes y Gymru Americanaidd newydd, roedd 1838 hefyd yn drobwynt yn hanes un o genhedloedd brodorol America, y Tsalagi (Cherokee). Nid oedd y newydd-ddyfodiaid...

  6. RHAN I: Y GENHADAETH GYMREIG I’R TSALAGI
    • 1 Dinadawosgi Cymreig: Cenhadaeth Thomas Roberts ac Evan Jones, 1821–5
      (pp. 13-48)

      Dŵr, tân, daear ac awyr: mae’r pedair elfen a’r cytgord rhyngddynt yn ganolog i fydolwg y Tsalagi.¹ Er bod eu diwylliant, eu cymdeithas a’u crefydd wedi’u strwythuro mewn modd sy’n rhoi sylw arbennig i bob un o’r pedair, nid yw’r un ohonynt yn bwysicach na dŵr. Yn ôl stori’u Cread, môr o ddŵr a oedd yma cyn i’r ddaear gael ei llunio a’i gosod yn hongian ar bedwar llinyn. Pan â’r ddaear yn hen ac yn dreuliedig, bydd y llinynnau’n torri a’r ddaear yn diflannu o dan y dŵr unwaith eto.² Mae gan yr elfen le amlwg yn eu defodau...

    • 2 Ayvwi, Llythrennedd a’r Yonega Cymreig: Cenhadaeth Evan Jones, 1825–39
      (pp. 49-80)

      Fe adroddid stori am yr Ysbryd Mawr,ayvwiacyonega.¹ Yn gyntaf, creodd yr Ysbryd Mawrayvwi, y dyn go iawn, preswylydd gwreiddiol America. Yn ail y creoddyonega, y dyn gwyn.Ayvwioedd yr hynaf ac iddo ef y rhoddodd y Crëwr anrhegion. Rhoddodd iddo fwa a saeth a’i ddysgu i hela. Anrhegodd yr Ysbryd Mawr ef â llyfr hefyd, gan ddweud y dylai ysgrifennu ynddo. Ond nid oeddayvwiyn gallu ysgrifennu na darllen, ac felly cymerodd y Crëwr y llyfr yn ôl a’i roi i’r dyn gwyn. Yn ôl rhai Tsalagi, bu i’r dyn gwyn ddwyn y...

  7. RHAN II: GWASG GYMRAEG AMERICA A BRODORION Y CYFANDIR, 1838–42
    • 3 O Gigyddion Fflorida i Ymerodraeth y Gorllewin Pell: Y Cyfaill o’r Hen Wlad a Brodorion America, 1838–42
      (pp. 83-97)

      Nid argyfwng y Tsalagi oedd yr unig wrthdrawiad rhwng cenedl frodorol a llywodraeth yr Unol Daleithiau i gael sylw ar dudalennauY Cyfaill o’r Hen Wladym 1838. Cyhoeddwyd erthygl fer yn rhifyn Chwefror y flwyddyn honno yn trafod hanes Rhyfel y Seminole yn Fflorida.¹ Yn debyg i’r erthygl arall honno o’r un flwyddyn a ddatganai fod milwyr yr Unol Daleithiau yn trin y Tsalagi ‘gydâ thiriondeb a phwyll’, mae’r adroddiad hwn yn adleisio fersiwn swyddogol llywodraeth yr Unol Daleithiau; ni cheir ymdrech i gyflwyno safbwynt y brodorion a’u rhesymau dros wrthsefyll awydd yr Americanwyr gwynion i’w symud o’u tiroedd:...

    • 4 Yr Indiaid Cymreig: Y Cyfaill o’r Hen Wlad a Llên y Madogwys
      (pp. 98-116)

      Nid Evan Jones a William Rowlands oedd y Cymry cyntaf i ysgrifennu am y Tsalagi. Daethai’r genedl frodorol Americanaidd honno i sylw rhai Cymry yn y ddeunawfed ganrif, a hynny oherwydd eu diddordeb mewn cenedl arall y credent ei bod yn byw yng Ngogledd America. Yn enedigol o Lanbedr Pont Steffan, bu Dr John Williams yn gweinidogaethu yn Syndenham, Caint, rhwng 1767 a 1795.¹ Roedd yn ysgolhaig Beiblaidd adnabyddus, ac un o’r gweithiau a enillasai enw da iddo yn y maes hwnnw oedd yr astudiaeth a gyhoeddasai ym 1771,A free enquiry into the authenticity of the first and second...

    • 5 ‘Gwnaeth y wlad gam mawr a’r Indiaid ac nid yw’r eglwys yn glir yn y peth hyn’: Y Cenhadwr Americanaidd, Y Beread a’r Brodorion, 1840–2
      (pp. 117-126)

      Pan gyhoeddwyd yr erthygl fer honno’n trafod adleoliad ‘Y Cherokeeaid’,Y Cyfaill o’r Hen Wladoedd unig gyfnodolyn Cymraeg yr Unol Daleithiau. Ond roedd poblogaeth Gymraeg y wlad yn tyfu yn y cyfnod hwn ac roedd gwasg Gymraeg America yn tyfu hefyd. Daeth rhifyn cyntaf misolyn Annibynwyr Cymraeg yr Unol Daleithiau,Y Cenhadwr Americanaidd, o’r wasg ym mis Ionawr 1840. Yn debyg i’r cylchgrawn enwadol arall a’i rhagflaenodd, roedd y cylchgrawn newydd yn ceisio gwasanaethu Cymry America yn gyffredinol a hybu nifer o agweddau ar y Gymru Americanaidd newydd, ond roedd yn gylchgrawn crefyddol yn anad dim. Yn unol ag...

  8. RHAN III: DAU GYLCHGRAWN, DWY IAITH, UN GREFYDD
    • 6 Tsalagi Atsinvsidv: Cenhadwr Llenyddol Evan Jones
      (pp. 129-156)

      Gaduhogadu – ‘Breadtown’ – oedd yr enw cyntaf a roddwyd ar leoliad safle cenhadol newydd Evan Jones. Newidiwyd yr enw wedyn i Cherokee ac fe’i gelwid yn ‘Baptist Mission’ hefyd. Roedd rhyw 25 milltir o ganolfan lywodraethol newydd y genedl, Tahlequah, ac roedd John Ross wedi ymgartrefu mewn lle o’r enw Park Hill, tua thair milltir y tu allan i’r dref newydd honno. Yn ystod y degawdau ar ôl y Llwybr Dagrau ysgrifennodd Evan Jones gannoedd o lythyrau at Fwrdd Cenhadol y Bedyddwyr. Mae’r union gyfeiriad a geir ar frig llythyrau’r cenhadwr yn amrywio; ceir ‘Cherokee’ ar rai a ‘Baptist...

    • 7 Cymhlethdodau Huodledd: Y Seren Orllewinol, Brodorion America a Chenhadaeth Evan Jones
      (pp. 157-183)

      Byddai unrhyw ymdrech i adrodd hanes cyhoeddiadau Bedyddwyr America mewn ieithoedd ar wahân i’r Saesneg yn gorfod casglu bod haf 1844 yn gyfnod pwysig. Fel y gwelwyd yn y bennod flaenorol, cyhoeddwyd rhifyn cyntaf yTsalagi Atsinvsidvym mis Awst y flwyddyn honno. Fis yn gynharach y daethai rhifyn cyntafY Seren Orllewinolo wasg yn Utica, Efrog Newydd.¹ Misolyn at wasanaeth Bedyddwyr Cymraeg yr Unol Daleithiau oedd ySeren, fel y nodir yn eglur ar ei wyneb-ddalen: ‘A gyhoeddwyd Ar benderfyniad Cymanfa o Fedyddwyr.’² Ond, yn debyg i’r cylchgronau enwadol Cymraeg eraill a gyhoeddid yn yr Unol Daleithiau,Y...

  9. Epilog: 1858
    (pp. 184-194)

    Cyhoeddwyd ysgrif am frodorion America ynY Cyfaill o’r Hen Wladym 1858 sy’n wahanol iawn i’r erthygl honno am y ‘Cherokeeaid’ a ymddangosai ar dudalennau’r cylchgrawn ugain mlynedd yn gynharach. ‘Yr Indiaid a’r Genhadaeth’ yw teitl y llith hon, ac un o Gymry Wisconsin, Thomas Roberts, yw’r awdur.¹ Cyflwyna’r pwnc o safbwynt yr ymfudwr Cymreig, gan bwysleisio statws Cymry America fel newydd-ddyfodiaid:

    Pan y byddem yn trydar am fyned i’r America, bedair blynedd-ar-ddeg yn ol, ‘Mae yr Indiaid paganllyd yno, ac y mae arnaf ofn iddynt eich lladd, fy mhlant,’ ydoedd un o’r brawddegau mwyaf effeithiol a ddefnyddiai ein...

  10. Mynegai
    (pp. 195-200)