Dwy Gymraes, Dwy Gymru

Dwy Gymraes, Dwy Gymru: Hanes Bywyd a Gwaith Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders

Rosanne Reeves
Copyright Date: 2014
Edition: 1
https://www.jstor.org/stable/j.ctt9qhcgw
  • Cite this Item
  • Book Info
    Dwy Gymraes, Dwy Gymru
    Book Description:

    Dyma lyfr sy’n torri tir newydd yn hanes llenyddiaeth menywod Cymru, drwy olrhain bywyd a gwaith dwy Gymraes anghofiedig o gefn gwlad a wnaeth eu marc ar eu cymunedau, eu cymdeithas a’u cenedl drwy eu hymgyrchoedd a’u llenyddiaeth.

    eISBN: 978-1-78316-062-4
    Subjects: Language & Literature

Table of Contents

  1. Front Matter
    (pp. i-vi)
  2. Table of Contents
    (pp. vii-vii)
  3. Delweddau
    (pp. viii-viii)
  4. Diolchiadau
    (pp. ix-x)
  5. Rhagymadrodd
    (pp. xi-xviii)

    Yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif, fel rhan o’r deffroad ymhlith menywod y byd Gorllewinol, troes criw bychan o academyddion Cymreig eu sylw at Gymraes y gorffennol gan amlygu’r bwlch mawr yn hanes Cymru y gellid ei lenwi’n unig drwy ddatguddio cyfraniad menywod i ddatblygiad cymdeithasol, crefyddol, gwleidyddol a diwylliannol eu cenedl

    Yn y gyfrol hon, yng ngoleuni gweledigaethau a gweithgaredd y rhagflaenwyr hyn, gwneir ymgais i ychwanegu at yr ymchwil a wnaed eisoes drwy ganolbwyntio ar ddwy awdur benywaidd o gefn gwlad Cymru nad ydynt eto wedi derbyn sylw haeddiannol, sef Annie Harriet Jones (1852—1910) a aned yn...

  6. 1 Cyfraniad Cymraes Anghofiedig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg i’w Chenedl
    (pp. 1-17)

    Er mwyn gosod bywydau a gweithiau Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders mewn cyd-destun cymdeithasol a’u lleoli yn hanes eu cenedl, bydd y bennod hon yn edrych yn gyffredinol ar amgylchiadau’r Gymraes Anghydffurfiol yng nghefn gwlad Cymru rhwng diwedd y ddeunawfed ganrif a diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mewn canrif o newidiadau pellgyrhaeddol ym myd crefydd, addysg, gwleidyddiaeth, diwylliant a’r economi, rhaid ystyried y datblygiadau hyn i gyd, ac effaith y cysylltiadau rhyngddynt ar dwf personoliaeth a hunaniaeth merched a menywod Cymru, ac ar natur eu gweithgareddau a’u llenyddiaeth.

    Ymneilltuaeth oedd y dylanwad hollbresennol ym mywyd merched mewn cymunedau...

  7. 2 Gwyneth Vaughan (1852–1910): Athrylith Ardudwy
    (pp. 18-37)

    Ganed Annie Harriet Jones (Gwyneth Vaughan) ym Mryn y Felin, Talsarnau, Meirionnydd, yn 1852, y cyntaf o bump o blant i Laura a Bennet Jones.¹ Ar gyfer cyfleu ei rhagoriaethau i’r rhai na chlywodd erioed amdani, ni ellir cael gwell dyfyniad na’r un o eiddo ‘Vesta’ ynThe Christian Commonwealthlle dywed:

    A distinguished literary man of Wales, a poet and one of the chief officials of Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, when questioned as to Gwyneth Vaughan’s position in public life said ‘Gwyneth Vaughan’s position as a Welsh genius stands entirely by itself. We have had, and we have, women...

  8. 3 Sara Maria Saunders: Merch y Methodistiaid
    (pp. 38-54)

    Heb amheuaeth byddai Gwyneth Vaughan wedi ymhyfrydu yn ei statws cymdeithasol petai wedi bod yn ddigon ffodus i gael ei magu mewn plasty bychan yng nghefn gwlad Cymru. Cafodd Sara Maria Saunders (S.M.S.) y fraint honno pan y’i ganed yn 1864 i Frances Humphreys (1836—1918), a Robert Joseph Davies (1839—92) yng Nghwrt Mawr, Llangeitho, Ceredigion, yr hynaf o ddeg o blant – ond ar aelwyd a brofodd dristwch a galar pan fu farw ei brodyr: Edward yn ddwy oed yn 1869; George yn faban yn 1877, a Bertie’n bedair ar ddeg oed yn 1879, pan oedd S.M.S. yn bump,...

  9. 4 Llenyddiaeth Gwyneth Vaughan
    (pp. 55-92)

    Ymhell cyn i Ddeddf 1889 sicrhau addysg ganolraddol gyfartal i ferched a bechgyn Cymru, yr oedd Gwyneth Vaughan, merch y melinydd a disgybl disgleiriaf ysgol elfennol Frutanaidd Talsarnau yn chwedegau’r ganrif honno, wedi llwyddo i’w haddysgu ei hunan i safon uwchraddol, ac erbyn 1884, yn 32 mlwydd oed, fel newyddiadurwraig yn Llundain, yn ‘derbyn gwerth ei llafur gan John Bull yn rheolaidd a chyflawn’.² Yn ei thaflen ‘Works of Gwyneth Vaughan’, a luniodd yn 1908 fel rhan o’i chais am ‘bensiwn sifil’, nid yw’n manylu ar yr erthyglau a ysgrifennodd yn nechrau’r 1880au, gan gyfeirio atynt yn unig fel ‘A...

  10. 5 Llenyddiaeth Sara Maria Saunders
    (pp. 93-133)

    Yn y bennod hon, archwilir creadigrwydd ‘un arall’ a enynnodd edmygedd a diddordeb darllenwyr di-ri â’i thapestri llenyddol. Fel Gwyneth Vaughan, canolbwyntiodd Sara Maria Saunders (S.M.S.) gant y cant ar y materion a’i hysbrydolodd ac, fel canlyniad i’w dyfalbarhad a’i gallu cynhenid, gellid dweud amdani hithau hefyd pe cesglid ei holl weithiau at ei gilydd y byddent ‘yn amryw gyfrolau trwchus’. Yn gynnar yn ei bywyd deallodd S.M.S. effeithiolrwydd y gair ysgrifenedig fel cyfrwng pwerus i drosglwyddo neges tröedigaeth a manteisiodd cylchgronau Cymreig y Methodistiaid Calfinaidd, yn y ddwy iaith, ar ‘y nwyd neu’r ysfa’, chwedl Thomas Parry am Gwyneth...

  11. 6 Cymharu Llenyddiaeth Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders
    (pp. 134-176)

    Yng nghyd-destun y newidiadau cyffrous yn hanes Cymru a’r Gymraes yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwneir ymgais yn y bennod hon i gynyddu’n dealltwriaeth o wreiddiau amrywiol ein hunaniaeth genedlaethol drwy gymharu llenyddiaeth dwy o awduron benywaidd mwyaf poblogaidd eu cyfnod.

    Meddai traethydd ‘Chronicles of Abernant’ (1897), mewn datganiad sy’n cadarnhau cynnwrf cyffredinol yr oes, ac sydd, mae’n debyg yn fynegiant o deimladau S.M.S. ei hunan, ‘I do not know exactly why I am attempting to write these Chronicles; it may be that the spirit of the age, the restless, unquiet spirit of the age, which prompts...

  12. Diweddglo
    (pp. 177-180)

    Dwy o blith to o Gymraësau anghofiedig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a ddiflannodd gyda’u chwiorydd o olwg y cyhoedd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif oedd Gwyneth Vaughan a Sara Maria Saunders. Cyflwynwyd y dadleuon dros adargraffu eu gweithiau ysgrifenedig yn y gobaith o dynnu sylw darllenwyr yr unfed ganrif ar hugain at eu bodolaeth a’u llenyddiaeth. Fel dwy ‘Ddynes Newydd’, un wedi dod i gysylltiad ag ymgyrchwragedd amlycaf prifddinas Lloegr yn ei hugeiniau cynnar, a’r llall wedi ei dylanwadu’n fwy gan syniadau efengylyddol o America’n dilyn ei hymweliadau cyson â’r Cyfandir hwnnw, yr oeddent, heb amheuaeth, o flaen...

  13. Nodiadau
    (pp. 181-217)
  14. Llyfryddiaeth
    (pp. 218-238)
  15. Mynegai
    (pp. 239-245)
  16. Back Matter
    (pp. 246-246)