Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?

Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?: Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

Kate Woodward
Copyright Date: 2013
Edition: 1
https://www.jstor.org/stable/j.ctt9qhcv6
  • Cite this Item
  • Book Info
    Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?
    Book Description:

    Ymdriniaeth ar hanes lliwgar a ffilmiau dadleuol y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (1971–86), corff a sefydlwyd yn unswydd er mwyn cynhyrchu ffilmiau Cymraeg eu hiaith.

    eISBN: 978-0-7083-2593-3
    Subjects: Film Studies

Table of Contents

  1. Front Matter
    (pp. i-vi)
  2. Table of Contents
    (pp. vii-vii)
  3. Diolchiadau
    (pp. viii-viii)
  4. Rhestr Luniau
    (pp. ix-x)
  5. Talfyriadau
    (pp. x-xii)
  6. 1 Braenaru’r Tir
    (pp. 1-29)

    Yn eu cyfrolThe Media in Wales: Voices of a Small Nation,dywed David M. Barlow, Philip Mitchell a Tom O’Malley: ‘[It is] difficult to see how any account of the history and development of the media in Wales can be told without recourse to the idea of “struggle”.’¹ Bwriad y gyfrol hon yw gwyntyllu hanes un asiantaeth anghofiedig a sefydlwyd yn unswydd er mwyn cynhyrchu ffilmiau Cymraeg eu hiaith. Wrth ddatguddio hanes y sefydliad, dadleuir yma fod sefydlu’r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (BFfC) (1971–86) yn rhan o’r frwydr dros ddiogelu a gwarchod yr iaith Gymraeg a yrrwyd gan ysfa...

  7. 2 ‘Death to Hollywood!’ Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r British Film Institute
    (pp. 30-61)

    Mae’r gyfrol hon yn dehongli hanes y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (BFfC) fel ymgorfforiad o densiynau sy’n ganlyniad i frwydrau rhwng systemau grym. Eisoes, cyfeiriwyd at honiad David M. Barlow, Philip Mitchell a Tom O’Malley fod y syniad o ‘frwydr’ yn nodweddu hanes a datblygiad y cyfryngau yng Nghymru.¹ Ategir hyn gan John Davies, a honnodd wrth archwilio hanes y BBC yng Nghymru fod darlledu yn ‘one of the most contentious of all issues’.² Darparodd Aled Jones yntau ddadansoddiad treiddgar o frwydrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yn yr ymdrech i gynnal gwasg brint Gymreig fywiog yn y ddwy...

  8. 3 Gwreiddiau a Chyd-destun Sefydlu’r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
    (pp. 62-79)

    Yn ei gyfrol,The Break-up of Britain, disgrifia Tom Nairn y 1970au fel cyfnod o ‘rapidly accelerating backwardness, economic stagnation, social decay and cultural despair’.¹ Yn gyffredinol fe’i hystyrir yn ‘ddegawd y diafol’, yn gyfnod llwm, diobaith, dystopaidd. Fe’i darlunnir yn gyson fel cyfnod a nodweddir gan streiciau niferus, chwyddiant cynyddol, diweithdra sylweddol a rhwygiadau cymdeithasol chwerw, ac fe’i diffinnir fel cyfnod o ddirywiad economaidd, gwrthdaro gwleidyddol ac anghydfod cymdeithasol heb ei debyg.² yn y cyd-destun hwn, mae nifer wedi tynnu sylw at y ffaith bod ffilmiau Prydeinig fel petaent yn adlewyrchu digalondid cyfnod, a cheir consensws bod y ffilmiau...

  9. 4 Troi’n Genedlaethol a Brwydrau 1973–1978
    (pp. 80-110)

    Edrychir yn awr ar esblygiad Bwrdd Ffilmiau’r Gogledd i fod yn gorff cenedlaethol ar ôl derbyn ei grant cyntaf oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) a datblygu’n Fwrdd Ffilmiau Cymraeg (BFfC). Wrth ddarlunio’r hanes, gwelir nad cysyniadau syniadol yn unig mo bwerau disgyblaethol, hegemoni ac imperialaeth ddiwylliannol CCC a’r British Film Institute (BFI), ond realiti byw a oedd yn rheoli llanw a thrai gwaith beunyddiol y BFfC â grym haearnaidd. Yn y brwydrau parhaus am arian, cydnabyddiaeth a sylw y gwelir hanfod natur banoptig y cyrff ariannu. Yn ogystal â’r berthynas rhwng y bwrdd a’r ddau gorff, dadlennir yma hefyd...

  10. 5 Teisennau Mair (1979) a Newid Gêr (1980)
    (pp. 111-133)

    Wedi edrych yn fanwl ar gyd-destun sefydlu’r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (BFfC) a’r brwydrau i ennill cyllid i gynhyrchu ffilmiau, priodol yw asesu i ba raddau y llwyddodd i wireddu ei amcanion. Er mwyn tafoli graddau’r llwyddiant hwnnw, byddai’n ddefnyddiol cynnig dadansoddiad beirniadol o’r cynnyrch, sef y ffilmiau unigol, a hynny mewn perthynas â’r modd y cawsant eu derbyn gan y wasg a’r cyhoedd.

    Wrth sefydlu’r bwrdd yn gwmni cyfyngedig gyda statws elusennol ym 1973 nodwyd yr amcanion canlynol:

    (a) I gynhyrchu ffilmiau gwreiddiol, proffesiynol yn yr iaith Gymraeg gogyfer ag ieuenctid ac oedolion.

    (b) Dybio ac is-deitlo deunydd da o...

  11. 6 O.G. (1981) ac O’r Ddaear Hen (1981)
    (pp. 134-154)

    Gwanwyn a haf 1981 oedd cyfnod mwyaf addawol a thoreithiog y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (BFfC). Trefnodd Gwilym Owen gynhadledd i’r wasg er mwyn tynnu sylw at ei lwyddiannau diweddar a’r bwrlwm o weithgareddau a oedd ar droed. Gan iddo lwyddo i gynhyrchu dwy awr a hanner o ffilmiau yn hytrach na’r ddwy awr y gofynnwyd amdanynt adeg ei benodi, yr argraff gyffredinol oedd bod y bwrdd yn cael ei lywio mewn modd effeithiol a phroffesiynol. Erbyn Mai 1981, roedd dros 6,000 o bobl wedi gweldTeisennau MairaNewid Gêr, ac roedd grwpiau a mudiadau niferus wedi llogi’r ddwy ffilm...

  12. 7 MadamWen (1982), S4C a Ty’d Yma Tomi! (1983)
    (pp. 155-184)

    Mae hanes cynnar S4C a hanesMadam Wenwedi eu cydblethu’n anorfod. Bu hanes cynhyrchu’r ffilm yn bennod ysgytwol ac allweddol yn hanes y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (BFfC). Nid dyfodol y bwrdd yn unig a ddibynnai ar y ffilm hon, ond roedd canfyddiad y gwylwyr o’r sianel Gymraeg a oedd newydd ei sefydlu hefyd o dan y chwyddwydr. Yn yr ymdrech i greu’r ffilm fawr gyntaf ar gyfer S4C, daeth uchelgais wyneb yn wyneb â diffyg profiad, a thalwyd yn ddrud am effeithiau’r gwrthdrawiad hwnnw. Cyfrannodd gwleidyddiaeth y cyfnod, a sensitifrwydd S4C i feirniadaeth, at fethiant costus a effeithiodd yn...

  13. Cloriannu
    (pp. 185-196)

    Hanes tymhestlog fu i’r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (BFfC). Fe’i sefydlwyd er mwyn bodloni angen penodol iawn, a hynny am resymau diwylliannol arbennig. Go brin y rhagwelodd y criw o bobl addysgol a chreadigol a ymgasglodd ym Mangor yn Nhachwedd 1970 y fath frwydr a’u hwynebai wrth ymdrechu i greu ffilmiau gwreiddiol yn yr iaith Gymraeg, nac fel y byddai’r frwydr honno yn arwain i 10 Stryd Downing.

    Bu’r frwydr gyda’r British Film Institute (BFI) yn un ffyrnig, a gododd nifer o gwestiynau ynglŷn ag imperialaeth ddiwylliannol a rôl Cymru a’r Gymraeg o fewn Prydain, a hynny yng nghysgod y refferendwm...

  14. Atodiad: Ffilmyddiaeth
    (pp. 197-198)
  15. Mynegai
    (pp. 199-206)
  16. [Illustrations]
    (pp. None)