Casglu Darnau'r Jig-So

Casglu Darnau'r Jig-So: Theori Beirniadaeth R. M. (Bobi) Jones

Eleri Hedd James
Copyright Date: 2009
Edition: 1
https://www.jstor.org/stable/j.ctt9qhdbd
  • Cite this Item
  • Book Info
    Casglu Darnau'r Jig-So
    Book Description:

    Er gwaethaf y berw Ôl-Fodernaidd a welwyd yn ystod yr 1990au, prin fu’r sylw a roed i theori lenyddol yng Nghymru. Prinnach fyth ydyw’r beirniaid llenyddol Cymraeg a fentrodd i fyd dieithr theori beirniadaeth lenyddol.

    eISBN: 978-0-7083-2247-5
    Subjects: Language & Literature

Table of Contents

  1. Front Matter
    (pp. i-iv)
  2. Table of Contents
    (pp. v-vi)
  3. Rhagair
    (pp. vii-viii)

    Yn y gyfrol hon archwilir yr honiad a wnaed gan Bobi Jones ei fod wedi bod yn gweithio ers dros ddeng mlynedd ar hugain ar ‘brosiect’ mewn beirniadaeth lenyddol. Ceisir disgrifio a dadansoddi gwahanol haenau y ‘prosiect’ hwn yn unigol, cyn ystyried pa mor llwyddiannus ydynt, beth yw eu cyfraniad i’r drafodaeth Gymraeg am lenyddiaeth, a sut y mae’r gweddau unigol hyn yn cydweithio er creu yr hyn a eilw Bobi Jones yn ‘ Feirniadaeth Gyfansawdd’.

    Mae’r gyfrol bresennol yn ffrwyth gwaith ymchwil a wnaethpwyd ar gyfer traethawd doethuriaeth. Cydnabyddaf yn ddiolchgar iawn imi dderbyn ysgoloriaeth ymchwil gan yr AHRC...

  4. Cyhoeddiadau allweddol
    (pp. ix-x)
  5. Rhestr o dermau ac unigolion allweddol
    (pp. xi-xx)
  6. 1 Bywyd a gwaith R.M. (Bobi) Jones
    (pp. 1-20)

    Poenus o draddodiadol yw dechrau cyfrol ar waith Bobi Jones â phennod gyflwyniadol, fywgraffyddol ei naws. Mae hyn yn arbennig o wir o gofio iddo yntau, yn ôl ei ffasiwn ‘anghydweithredol’¹ nodweddiadol ef ei hun, ddewis cynnwys ei ‘Ragymadrodd’ i’w hunangofiant pryfoclyd,O’r Bedd i’r Crud, ar ddiwedd y llyfr. Ond credaf ei bod yn bwysig cydymffurfio, o leiaf yn y fan hon, er mwyn taflu goleuni ar fywyd a gwaith y gfir hwn a gyhuddwyd ganwaith o fod yn ‘dywyll’. Nid amherthnasol hynny, o sylwi bod Bobi Jones yntau wedi cymylu’r ffin rhwng cyfrol academaidd a hunangofiant drwy roi...

  7. 2 Tafod
    (pp. 21-53)

    Tra oedd Bobi Jones yn ddarlithydd ymchwil yng Nghyfadran Addysg Jac L. Williams yn Aberystwyth gofynnwyd iddo ymchwilio’n benodol i’r gwaith o geisio moddion i ‘achub yr iaith’, cyn belled ag y gellid, oddi mewn i’r system addysg. Tasg nid bychan. Mae’r ffaith bod ganddo ymdeimlad o ‘achos’ wrth ymgymryd â’r gwaith hwn yn drawiadol. O’r cychwyn cyntaf nid aseiniad academaidd yn unig ydoedd yn ei olwg ef, ond cenhadaeth ac iddi’r potensial i roi hwb sylweddol i’r iaith. Fel y nodwyd eisoes, yn sgil y gwaith ymchwil hwn cafodd gyfle i dreulio blwyddyn ym Mhrifysgol Laval, Québec yn 1964,...

  8. 3 Cymhelliad
    (pp. 54-95)

    Wrth adolygu a chrynhoi ei feddyliau a’i ddamcaniaethau ynghylch maes Cymhelliad ynBeirniadaeth Gyfansawdd, cyfaddefodd Bobi Jones mai ’[d] yma’r adran fwyaf anodd o’r gyfrol hon i’w sgrifennu’.¹ Gallwn gydymdeimlo ag ef yn y fan hon, oherwydd wrth dafoli a gwerthuso theori driphlyg Bobi Jones gwelwn mai dyma’r wedd fwyaf problematig, os yr un fwyaf diddorol, ar ei Feirniadaeth Gyfansawdd. Cynigiodd Bobi Jones ei ddehongliad ei hun ynghylch pam mae’r maes hwn yn un mor anodd ymdrin ag ef: ‘Nid oes i’r wedd hon mo’r un traddodiad trwchus mewn gwledydd eraill ag a geir y tu ôl i’r ddwy wedd...

  9. 4 Mynegiant
    (pp. 96-121)

    Datgela’r frawddeg chwareus o baradocsaidd uchod ychydig ar gymhlethdod Mynegiant a’r anhawster a geir wrth geisio ei leoli o fewn ffiniau Beirniadaeth Gyfansawdd. Pan fo’r Beirniad Cyfansawdd yn bwrw ati i feirniadu llenyddiaeth rhaid iddo ddechrau — wrth reswm — gyda’r Mynegiant, oblegid yno y ‘dadlennir i’r ymchwiliwr y Tafod a’r Cymhelliad’,² ac yno y gwelir cynnyrch terfynol y broses lenyddol; llenyddiaeth orffenedig, boed ar lafar neu mewn print. Ac eto Mynegiant sydd â’r safle dibennol yn nhrefn gronolegol y weithred o lenydda, a hon yw’r wedd a drafodir olaf gan Bobi Jones ynBeirniadaeth Gyfansawdd.

    Ond gorffen yn y dechrau a...

  10. 5 Y Prosiect
    (pp. 122-150)

    Ar ryw olwg, tasg hawdd yw olrhain datblygiad ‘prosiect’ beirniadol Bobi Jones. Bron nad yw’n gwneud y gwaith hwn drosom ar adegau, yn arbennig yn y drioleg o gyfrolau a gyhoeddwyd ganddo rhwng 2000 a 2003, sefMawl a’i Gyfeillion(2000),Mawl a Gelynion ei Elynion(2002) aBeirniadaeth Gyfansawdd(2003). Mae’n feirniad a chanddo agenda ac amcanion arbennig. Mewn sawl cyfrol o’i eiddo mae’n oedi er mwyn crynhoi ei weledigaeth ac esbonio ym mha fodd y mae ei amryw gyfrolau’n epistolau yn ei genhadaeth feirniadol fawr.¹ Mae’n awyddus i’w ddarllenwyr rannu ei weledigaeth a sylweddoli nad cyfres o lyfrau...

  11. 6 Arddull Bobi Jones
    (pp. 151-169)

    Hyd yma, edrychwyd ar agweddau ar gynnwys beirniadaeth lenyddol Bobi Jones a’u cydberthynas. Fodd bynnag, nid bodoli mewn gwagle y mae gwaith beirniadol y polymath hwn: mae Bobi Jones yr un mor adnabyddus fel llenor creadigol ag ydyw fel beirniad llenyddol. Ymgais sydd yn y bennod hon i weld a oes perthynas rhwng ei waith creadigol a’i waith beirniadol, gan ofyn a yw’r ddau fath o ysgrifennu yn gorgyffwrdd.

    Yn euTheory of Literature(1949), awgrymodd Wellek a Warren fod modd diffinio llenyddiaeth yn ôl ieithwedd, gan y gellid dosrannu iaith yn dri chategori sylfaenol: ‘the ordinary, the literary, and...

  12. 7 Ymateb i waith Bobi Jones
    (pp. 170-212)

    Un peth sy’n sicr yn wir am waith Bobi Jones yw ei fod yn hawlio ymateb, ac fel yr awgryma’r dyfyniad uchod o eiddo A.M. Allchin, yn anaml iawn y bydd hwnnw’n un llugoer. Bron nad oedd ymateb fflamboeth T.H. Parry-Williams aW.J. Gruffydd i’r Bobi Jones ifanc (neu’r ‘frwydr Dafydda-Goliath’ a fu rhyngddynt, chwedl John Rowlands),² yn proffwydo’r math o dderbyniad a gâi weddill ei yrfa. Yn nechreuadau ei yrfa disgrifiwyd Bobi Jones gan Iorwerth Jones, golygyddY Crynhoad, fel ‘y llenor ifanc o Gaerdydd y bu mwy o feirniadu ar ei waith nag ar yr eiddo un Cymro arall...

  13. 8 Ymateb yn ennyn ymateb
    (pp. 213-246)

    Sylwyd yn y bennod ddiwethaf ar y diffyg deialog a’r distawrwydd sydd wedi amgylchynu llawer o waith Bobi Jones. Eironig braidd yw’r tawelwch hwn o ystyried ymdrechion diwyd Bobi Jones ei hun i brocio trafodaeth neu ddadl gyhoeddus â’r sawl a wrthwyneba ei theorïau. Mae parodrwydd i gynnal deialog â’i feirniaid yn nodwedd ar ei yrfa o’r dechreuadau. Cymerer ei ddadl gyhoeddus, os cellweirus, â Pennar Davies ar dudalennauY Fanerpan oedd yn ddyn ifanc, er enghraifft:

    Annwyl Pennar,

    Hynaws oedd dy lythyr, a diolch amdano; ond ’rwy’n ofni nad hynaws fydd yr ateb hwn.¹

    Dywedodd Pennar yng nghanol...

  14. 9 Gosod y darn olaf
    (pp. 247-266)

    Yn y gyfrol hon ceisiwyd amlinellu hanfodion theori driphlyg Bobi Jones, trafod eu hoblygiadau wrth feirniadu llenyddiaeth ac olrhain datblygiad y cysyniad o Feirniadaeth Gyfansawdd. Rhoddwyd sylw yn ogystal i lenyddoldeb gweithiau beirniadol Bobi Jones, yr ymateb a fu iddynt a’r ddeialog a gododd yn eu sgil. Ceisiwyd tafoli a gwerthuso’r agweddau unigol hyn yn eu tro, a gwneud awgrymiadau hwnt ac yma ynghylch eu gwerth a’u cyfraniad. Ond gorchwyl y bennod olaf hon fydd rhoi sylw penodol i dafoli gwerth Beirniadaeth Gyfansawdd Bobi Jones a dod i gasgliadau ynghylch ei gyfraniad i ddisgwrs llenyddol Cymru a’r byd yn gyffredinol....

  15. Mynegai
    (pp. 267-276)