Prifysgol Bangor 1884-2009

Prifysgol Bangor 1884-2009

DAVID ROBERTS
Copyright Date: 2009
Edition: 1
https://www.jstor.org/stable/j.ctt9qhdz3
  • Cite this Item
  • Book Info
    Prifysgol Bangor 1884-2009
    Book Description:

    Mae’r gyfrol hon yn ymwneud ag un o sefydliadau addysg uwch pwysicaf Cymru, yn cwmpasu ei hanes o’i greu ym 1884 fel Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, ei ymgnawdoliad fel Prifysgol Cymru, Bangor a’i ben-blwydd yn 125 oed yn 2009.

    eISBN: 978-0-7083-2281-9
    Subjects: Education

Table of Contents

  1. Front Matter
    (pp. i-vi)
  2. Table of Contents
    (pp. vii-viii)
  3. Rhestr lluniau
    (pp. ix-xii)
  4. Byrfoddau
    (pp. xiii-xiv)
  5. Rhagair
    (pp. xv-xvi)

    Mae Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan greiddiol o’m bywyd deallusol. Yn 17 oed, mewn pwl o snobyddiaeth wrthdroëdig, sydd wedi bod yn nodwedd ohonof ers hynny, gwrthodais wrando ar gyngor prifathro fy hen ysgol ramadeg i wneud cais i Goleg Iesu, Rhydychen. Yn hytrach, gweithiais i ennill Ysgoloriaeth William James Lewis i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru – fel yr oedd bryd hynny – ym Mangor. Roeddwn yn dilyn yn ôl troed fy nhad, rhywbeth sy’n nodweddiadol o hyd o’r ‘Brifysgol deuluol’ hon, er bod ynddi 11,000 o fyfyrwyr bellach.

    Bu ef yn un o sêr cyfieithiadau arloesol yr Athro Ifor Williams...

  6. Rhagymadrodd
    (pp. xvii-xx)
    David Roberts

    Mae dathliadau pen-blwydd yn dra niferus y dyddiau hyn. Gall rhai ymddangos yn eithriadol ddibwys, tra bo arwyddocâd dwfn i eraill. Cyrhaeddir sawl carreg filltir nodedig yn 2009: mae’n 80 mlynedd ers ‘Cwymp Wall Street’, 70 mlynedd ers dechrau’r Ail Ryfel Byd, a hanner canrif ers marw Buddy Holly. Mae’n debyg nad yw sefydlu prifysgol i’w gymharu, o ran pwysigrwydd hanesyddol nac effaith cyhoeddus, â’r cyfryw ddigwyddiadau. Eto i gyd, bydd yn taro tant, yn bersonol a dwfn, gyda chenedlaethau o fyfyrwyr, staff a’u teuluoedd. Ysgrifennwyd y llyfr hwn i ddathlu 125 mlynedd ers agor Prifysgol Bangor. Mae’n adrodd hanes...

  7. 1 ‘Bydd gogledd Cymru a’i wraig yno’: Y Dechreuad, 1884–1892
    (pp. 1-22)

    Roedd sylw A. J. Mundella ar agoriad Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym 1884 yn ymgorffori’r rhamant a’r arwriaeth a nodweddai ddechreuadau Coleg y Brifysgol. Cafwyd araith rymus – a fylchid gan guro dwylo cyson – gan Mundella, a oedd yn Is-Lywydd y Bwrdd Addysg yn llywodraeth Gladstone, ac roedd 18 Hydref 1884 yn ddydd o lawen chwedl ym Mangor. Roedd ymgyrch nerthol wedi gorchfygu. Eto i gyd, genedigaeth anodd a chynhennus a gafodd Coleg y Brifysgol.

    Roedd yr ymgyrch dros addysg brifysgol yng Nghymru wedi’i chysylltu’n annatod ar hyd y canrifoedd ag ymgyrchoedd dros genedligrwydd Cymreig. Yn wir, pe bai gwrthryfel Owain...

  8. 2 ‘Balliol Bach’: Twf a Datblygiad, 1893–1927
    (pp. 23-34)

    Er gwaethaf treialon a helbulon ei flynyddoedd cynnar, roedd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru wedi cael ei draed dano ac ar seiliau cadarn. Tua throad y ganrif dechreuodd mwy o’i sefydlwyr – sef yr Athrawon cyntaf – symud ymlaen. Symudodd Gray, a ddaeth yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ym 1896, i Glasgow dair blynedd yn ddiweddarach i olynu ei fentor, yr Arglwydd Kelvin. Gadawodd Dobbie ym 1903 ac fe’i hetholwyd yntau yn FRS y flwyddyn ganlynol; fe’i hurddwyd yn farchog ym 1915 am ei wasanaeth fel Pennaeth Labordai’r Llywodraeth. Gadawodd Ballard Mathews am Gaergrawnt ym 1896, a daeth yntau hefyd yn Gymrawd...

  9. 3 ‘Y coleg rhyfedd a hardd ar y bryn ym Mangor’: Dirwasgiad a Rhyfel, 1928–1945
    (pp. 35-56)

    Ni fu penodi olynydd i Reichel ym 1926 yn ddidrafferth a dweud y lleiaf. Taflodd y Cyngor ei rwyd yn eang a bu’n chwarae â nifer sylweddol o enwau. Derbyniwyd pedwar cais a gwrthodwyd tri fel rhai anaddas; nid oedd yr un o’r tri yn Gymry. Ymysg yr enwau a gynigiwyd roedd Wynn Wheldon (y Cofrestrydd), W. Garmon Jones (Athro Hanes yn Lerpwl a mab yng nghyfraith J. E. Lloyd), Ifor Williams ac Ifor L. Evans o Gaergrawnt (Prifathro Aberystwyth yn ddiweddarach). Fodd bynnag, nid oedd amryw o’r rhai a awgrymwyd eisiau cael eu hystyried mewn gwirionedd. Bu’r Pwyllgor Dewis,...

  10. 4 ‘Roedd rhyw naws deuluol i’r lle i gyd’: Ailadeiladu, 1945–1957
    (pp. 57-68)

    Pan orffennodd y rhyfel o’r diwedd, canodd y clychau yn eglwys gadeiriol Bangor a dywedwyd bod adeiladau’r Coleg Prifysgol fel pe baent yn fôr o oleuni. Cynhaliwyd gwasanaeth diolchgarwch awyr agored ar dir y Coleg y diwrnod ar ôl diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. Aethpwyd â thrysorau’r Oriel Genedlaethol yn ôl i’w cartref a dechreuwyd defnyddio Neuadd Prichard-Jones drachefn ar gyfer Dawns y Coleg a seremonïau graddio. Ar ôl gwella o’i salwch, ailafaelodd y Prifathro Emrys Evans yn ei ddyletswyddau yn haf 1946 mewn pryd i groesawu’r Brenin George VI a’r Frenhines Elizabeth ar ymweliad ar 18 Gorffennaf; buont yn bwrw...

  11. 5 ‘Mae gan brifysgolion ddyletswydd i geisio cael lle i bawb sydd eisiau mynd iddynt’: Her Ehangu, 1958–1976
    (pp. 69-90)

    Mae’n anodd pennu pryd yn union y daeth y symptomau’n amlwg iawn, ond daeth dyddiau cynharaf prifathrawiaeth Charles Evans â gofid personol dybryd iddo, a fyddai’n effeithio ar ei gyfnod yn y swydd ac, yn wir, ar ei fywyd drwyddo draw. At ddiwedd y 1950au, pan oedd tua 40 oed, canfuwyd ei fod yn dioddef o’r parlys ymledol. Deellir i’w wraig, Denise Morin – a oedd yn ddringwr medrus ei hun – ddod yn ymwybodol o’r cyflwr tra oeddent ar eu mis mêl.¹ Lawer blwyddyn yn ddiweddarach dywedodd Evans wrth yr awdur Jim Perrin fod codwm a gafodd ar y Tryfan ym...

  12. 6 ‘Ar anwadal donnau’: Gwrthdaro ac Argyfwng, 1976–1984
    (pp. 91-106)

    Fel roedd y ffrygydau ynglŷn â’r Colegau Addysg yn tawelu, ym Mehefin 1976 derbyniodd y Cyngor ddogfen gan Gymdeithas Cymric y myfyrwyr Cymraeg yn gwneud cais am gynyddu defnyddio’r Gymraeg yn y Coleg. Ymateb y Cyngor oedd cytuno y dylid trafod y mater yn ei gyfarfod nesaf ym mis Hydref.¹ Pan gyfarfu’r Cyngor ar 27 Hydref, caniatawyd i dri aelod o’r Gymdeithas fynd i mewn i Ystafell y Cyngor i gyflwyno eu hachos, yn dilyn cythrwfl bychan y tu allan i’r drws. Yr hyn roeddent ei eisiau yn ei hanfod oedd polisi iaith clir. Teimlai’r Cyngor na allai dderbyn dogfen...

  13. 7 ‘Rwy’n sicr mai gweithredu’n radical sy’n iawn’: Ymateb i Newid, 1984–2009
    (pp. 107-134)

    Roedd 1984, ar fwy nag un ystyr, yn groesffordd allweddol bwysig yn hanes Coleg Prifysgol Gogledd Cymru. Hon, yn anad dim, oedd blwyddyn canmlwyddiant y sefydliad, a bu o gymorth i chwalu’r cymylau a rhoi cyfle i anadlu drachefn. Cafwyd dathliadau ffurfiol yn Hydref 1984 – yn cynnwys gorymdaith at weddillion y Penrhyn Arms, a chyflwyno brysgyll trawiadol i’r Coleg Prifysgol gan Gymdeithas y Cyn Fyfyrwyr. Hefyd lansiwyd apêl newydd, a hwyluswyd drwy sefydlu Ymddiriedolaeth Ddatblygu. Cafwyd digwyddiadau cymdeithasol yn ogystal, yn cynnwys te staff, a fu’n help i gau briwiau a phontio gwahaniaethau. Ar lawer ystyr, llwyddodd dathliadau’r canmlwyddiant i...

  14. Nodiadau
    (pp. 135-144)
  15. Mynegai
    (pp. 145-148)