Castell Caerfyrddin

Castell Caerfyrddin: Olrhain Hanes Llywodraethiant

Neil Ludlow
Copyright Date: 2014
Edition: 1
https://www.jstor.org/stable/j.ctt9qhfx2
  • Cite this Item
  • Book Info
    Castell Caerfyrddin
    Book Description:

    Dyma lyfr sy’n gosod un o gestyll mwyaf pwysig ond lleiaf adnabyddus Cymru yn ôl ym myw hanes Cymru’r Oesoedd Canol.

    eISBN: 978-1-78316-047-1
    Subjects: Architecture and Architectural History

Table of Contents

  1. Front Matter
    (pp. i-iv)
  2. Table of Contents
    (pp. v-vi)
  3. RHAGAIR
    (pp. vii-viii)
    EIFION BOWEN

    DROS Y DDEUGAIN mlynedd ddiwethaf mae Caerfyrddin wedi dod yn lle cyfarwydd i ymwelwyr â’r castell, ac maent yn aml yn meddwl – ar gam – eu bod yng Nghaernarfon (120 milltir i’r gogledd). Efallai mwy o syndod oedd y nifer o bobl leol, a ddywedodd, mewn ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus gan y cyngor sir, ‘Doeddwn i ddim yn gwybod bod gan Gaerfyrddin gastell’. Dim ond ambell gipolwg o’r castell oedd yn bosib trwy’r adeiladau o’i gwmpas, a hyd yn oed bryd hynny, dim ond olion wedi eu gorchuddio ag eiddew oedd i’w gweld. Ar ben hynny, anaml y byddai Caerfyrddin yn...

  4. RHAGAIR
    (pp. ix-x)
    KENNETH MURPHY

    O’i sefydlu ym 1975 hyd at 1994, lleolwyd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yng Nghaerfyrddin – tref hynaf Cymru, a chanolbwynt bywyd gwleidyddol ac economaidd de-orllewin Cymru am dros ddwy fil o flynyddoedd. Un o flaenoriaethau cynharaf yr Ymddiriedolaeth oedd i roi darlun mwy eglur o adnoddau archeolegol y dref, ac arweiniodd hynny at gyhoeddiad arolwg arloesol gan y diweddar Terry James ym 1980. Ar yr un pryd, aeth Heather James o’r Ymddiriedolaeth ati i gloddio’n helaeth o fewn terfynau’r Gaerfyrddin Rufeinig; parhaodd ymrwymiad yr Ymddiriedolaeth â’r dref gyda chloddio uchelgeisiol Terry James ar leoliad mynachlog Urdd Sant Ffransis yn y 1980au. Serch...

  5. RHESTR FFIGURAU
    (pp. xi-xvi)
  6. RHESTR TABLAU
    (pp. xvii-xviii)
  7. RHESTR BYRFODDAU
    (pp. xix-xx)
  8. DIOLCHIADAU
    (pp. xxi-xxii)
  9. PENNOD UN CYFLWYNIAD ‘a certain good donjon’
    (pp. 1-14)

    ER BOD olion Castell Caerfyrddin yn drawiadol nid ydynt yn rai sylweddol. Nid ydynt, ar yr olwg gyntaf, yn cyhoeddi’r pwysigrwydd a roddwyd iddo ar un adeg. Er hynny, roedd Caerfyrddin nid yn unig yn un o brif gestyll Cymru yn yr Oesoedd Canol, ond yn un o’r rhai mwyaf. Yn fan cychwyn i’r Eingl-Normaniaid oresgyn de-orllewin Cymru, datblygodd Castell Caerfyrddin yn ganolfan awdurdod y Goron yn yr ardal ac roedd yn un o nifer fechan o gestyll brenhinol mewn ardal a oedd gan fwyaf wedi ei droi’n arglwyddiaethau Mers. Roedd ei statws fel daliad y Goron a chanolfan ar...

  10. PENNOD DAU CASTELL CAERFYRDDIN A’I LE YNG NGHYMRU’R OESOEDD CANOL
    (pp. 15-66)

    SEFYDLIAD PWRPASOL gan Frenin Harri I oedd Castell Caerfyrddin, canolfan lle gellid creu a chynllunio tiriogaeth Eingl-Normanaidd a’i hamddiffyn a’i llywodraethu wedyn. Dyma ganolfan llywodraeth frenhinol yn ne-orllewin Cymru ac o’r fan hon gellid cadw llygad ar amcanion y tywysogion Cymreig brodorol a’r arglwyddi Mers cyfagos. Oherwydd hynny roedd yn cyflawni nifer o wahanol swyddogaethau. Canolfan weinyddol ydoedd yn y lle cyntaf. Roedd yn gartref i swyddogion y Goron a’u teuluoedd. Roedd yn ganolfan weithredu milwrol i’r Eingl-Normaniaid yn yr ardal. Hwn oedd canolfan y faenor ac, fel pob canolfan llywodraethol, yr oedd yn garchar hefyd. Ac eithrio’r cyfnodau o...

  11. PENNOD TRI YR ADFEILION GWELEDOL
    (pp. 67-178)

    MAE’R BENNOD hon yn disgrifio canlyniadau’r prosiectau rhwng 1993 a 2006 a’r holl waith archeolegol blaenorol sy’n hysbys. Yn anorfod, y rhaglen welliannau sydd wedi arwain y gwaith diweddar er bod cyfleoedd wedi codi i wneud archwiliadau archeolegol wedi eu targedu, gan gynnwys cloddio dan reolaeth yn y beili yn 1980, y gwerthusiadau yn y gorthwr gwag yn 1997– 8 a’r cloddiadau y tu allan i’r porthdy yn 2003. Fodd bynnag, mae’r gwaith, yn niffyg unrhyw beth arall, wedi canolbwyntio ar ochrau gorllewinol a deheuol yr hen gwrt mewnol, lle mae’r adfeilion sy’n parhau i sefyll wedi eu crynhoi, a...

  12. PENNOD PEDWAR AIL-LUNIO’R CASTELL
    (pp. 179-232)

    NID YW ail-lunio’r castell canoloesol yn rhywbeth syml. Nid yw’n sefyll ar safle maes glas, ond yn hytrach fe’i difrodwyd yn sylweddol a’i ailfodelu’n helaeth yn dilyn gweithgaredd diweddarach. Ychydig iawn o’r ffabrig sydd wedi goroesi a bu’r gwaith cloddio’n gyfyngedig. Mae’r bennod hon yn trafod y dystiolaeth archeolegol ochr yn ochr â’r deunydd o ffynonellau gwreiddiol mewn ymdrech i gynhyrchu ail-luniad cynhwysfawr o’r castell. Mae hefyd yn edrych ar y modd y newidiodd dros amser a’r dylanwadau a fu ar ei ddatblygiad o ganlyniad i’w swyddogaethau gwahanol, yn rai milwrol a sifil.

    Mae dogfennaeth gyfoes yn cynnwys cyfrifon adeiladu...

  13. PENNOD PUMP YMRANNU, DYMCHWEL A DATBLYGU: Y CASTELL ÔL-GANOLOESOL
    (pp. 233-284)

    MAE HANES ôl-ganoloesol y safle’n dechrau gyda’r dirywiad yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg, gan arwain at ei adael bron yn llwyr fel preswylfan a chanolfan gyfreithiol – cyn diwedd y ganrif yn ôl pob tebyg – a’r Goron yn cael gwared arno. Dilynwyd hyn gan gyfnod o’i ailddefnyddio gan filwyr yn ystod y Rhyfel Cartref a’r Weriniaeth ac, fe awgrymir, ei ddinistrio’n fwriadol, tua diwedd yr 1650au. Fodd bynnag, cedwid carcharorion yn y castell drwy gydol y cyfnod hwn ac wedi hynny parhawyd i ddefnyddio’r hyn oedd yn weddill ohono fel carchar. Yn y cyfamser cafodd y cwrt allanol a...

  14. PENNOD CHWECH CROCHENWAITH A DARGANFYDDIADAU ERAILL
    (pp. 285-350)

    ER I’R ARCHWILIADAU o dan ddaear fod yn gyfyngedig, maent wedi cynhyrchu casgliad mawr o arteffactau. Cyfyngir y bennod hon i’r rhai hynny a adferwyd o’r pump archwiliad strwythuredig, hynny yw, i ddeunydd stratigraffig sicr a fu’n destun dadansoddiad gan arbenigwyr. Fe’i trefnir yn ôl categori’r defnydd, ac isrennir pob categori yn ôl y parth (a’r awdur) – sef y gorthwr gwag, cyntedd y porthdy, y Tŵr De-orllewinol, seler y Tŵr Sgwâr a’r ffos orllewinol. Prin fu’r defnydd a adferwyd o fannau eraill ar y cyfan ac fe’i cyfyngwyd i raddau helaeth i’r gorlwyth.

    Rhaid cymryd pwyll wrth asesu’r dystiolaeth o’r...

  15. PENNOD SAITH EPILOG: AILDDARGANFOD Y CASTELL
    (pp. 351-362)

    AM DROS 300 mlynedd, cuddiwyd olion Castell Caerfyrddin o’r golwg i raddau helaeth. Gan ddechrau yn gynnar yn yr 1970au, maent wedi dod yn ôl i’r golwg ac y maent unwaith eto’n tra-arglwyddiaethu ar y dref a’r wlad gyfagos. Gellir gwerthfawrogi presenoldeb gweledol nodedig y castell unwaith eto, yn arbennig o’r prif ffyrdd o’r de, ac mae’n cael ei gyfannu gan Neuadd y Sir – symbol ei hun o barhad y castell fel crud llywodraeth leol.¹

    Darganfuwyd llawer yn ystod y gwaith diweddar, yn bennaf drwy astudio’r olion sy’n parhau i sefyll yn y castell a’r deunydd gwreiddiol sy’n gysylltiedig â’i...

  16. ATODIAD: DATBLYGIAD A DDOGFENNWYD
    (pp. 363-382)
  17. LLYFRYDDIAETH
    (pp. 383-400)
  18. MYNEGAI
    (pp. 401-422)
  19. Back Matter
    (pp. 423-423)