Cymru'r Gyfraith
Cymru'r Gyfraith: Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol
R. Gwynedd Parry
Copyright Date: 2012
Edition: 1
Published by: University of Wales Press
https://www.jstor.org/stable/j.ctt9qhj9q
Search for reviews of this book
Book Info
Cymru'r Gyfraith
Book Description:

Cyfrol sydd yn trafod mewn modd difyr a darllenawdwy rhai o’r pynciau mwyaf heriol a dadleuol ym myd y gyfraith yng Nghymru heddiw.

eISBN: 978-0-7083-2519-3
Subjects: Law
You do not have access to this book on JSTOR. Try logging in through your institution for access.
Log in to your personal account or through your institution.
Table of Contents
Export Selected Citations Export to NoodleTools Export to RefWorks Export to EasyBib Export a RIS file (For EndNote, ProCite, Reference Manager, Zotero, Mendeley...) Export a Text file (For BibTex)
Select / Unselect all
  1. Front Matter
    Front Matter (pp. i-vi)
  2. Table of Contents
    Table of Contents (pp. vii-viii)
  3. Bywgraffiad
    Bywgraffiad (pp. ix-x)
  4. Rhagymadrodd
    Rhagymadrodd (pp. xi-xiv)
    R. Gwynedd Parry

    ‘Byddwn yn hoffi astudio’r gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg, ond gan nad oes yna lyfrau yn Gymraeg ar y pwnc, dydw i ddim yn meddwl y byddwn yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny.’

    Dyma’r ymateb a gefais yn aml wrth i mi geisio dwyn perswâd ar fyfyrwyr Ysgol Cyfraith Prifysgol Abertawe i ymgymryd ag astudiaethau yn y gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg. Dichon mai profiad tebyg a gafodd darlithwyr y prifysgolion eraill wrth iddynt geisio hybu ysgolheictod cyfreithiol trwy gyfrwng y Gymraeg.

    Ac eto, nid ymateb afresymol oedd yr ymateb hwn chwaith. Wedi’r cwbl, mae’r llyfrgell cyfraith yn llawn adnoddau...

  5. Pennod 1 Y Ddeddfwrfa Gymreig
    Pennod 1 Y Ddeddfwrfa Gymreig (pp. 1-36)

    Datganoli, yn anad dim arall, sydd wedi ysbrydoli a gyrru datblygiad a thwf hunaniaeth gyfreithiol y Gymru gyfoes. Y ffaith bod gan Gymru bellach ddeddfwrfa sy’n gwneud cyfreithiau sylfaenol ar gyfer pobl Cymru yw man cychwyn ein dadansoddiad o’r hunaniaeth gyfreithiol Gymreig.

    Bydd y bennod agoriadol hon yn ystyried arwyddocâd cyfreithiol datganoli yng Nghymru ac yn egluro pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gan ddechrau trwy ystyried y cefndir hanesyddol a chymdeithasol, ceir eglurhad o’r hyn a gyflawnodd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 trwy sefydlu’r cynulliad cenedlaethol. Yna, dadansoddir prif ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006, gan ystyried oblygiadau’r pwerau deddfu a ddaeth...

  6. Pennod 2 Iaith Cyfiawnder
    Pennod 2 Iaith Cyfiawnder (pp. 37-68)

    Y Gymraeg oedd iaith gweinyddu cyfraith yng Nghymru yn oes y tywysogion.¹ Wedi tranc cyfreithiau Hywel Dda, sef y traddodiad cyfreithiol cynhenid Cymreig, yn dilyn Statud Rhuddlan yn 1284 i ddechrau, a diwygiadau deddfau’r Tuduriaid yn ddiweddarach, efallai mai’r nodwedd bwysicaf o arwahanrwydd cenedlaethol Cymru oedd yr iaith Gymraeg.² Y cyfnod modern diweddar (o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen) yw prif ddiddordeb y bennod hon. Ei hamcan yw bwrw golwg ar y berthynas allweddol rhwng yr iaith Gymraeg a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Ac wrth i ni edrych ar hanes y berthynas rhwng yr iaith a’r gyfraith cawn...

  7. Pennod 3 Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?
    Pennod 3 Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd? (pp. 69-96)

    Yn y bennod ddiwethaf, buom yn ystyried statws gyfreithiol yr iaith Gymraeg a datblygiad agweddau cyfreithiol tuag ati. Rydym yn awr yn troi ein golygon at bwnc penodol sy’n ymwneud â’r ffordd y mae’r iaith yn cael ei thrin mewn gwrandawiadau yn y llysoedd troseddol ac, yn benodol, mewn gwrandawiadau lle mae rheithgorau yn gweithredu yn y broses.

    Er nad yw’r gyfundrefn cyfiawnder troseddol wedi ei datganoli, mae elfennau o weinyddu cyfraith trosedd, sef y broses o weithredu’r gyfraith, wedi datblygu strwythurau ac agweddau neilltuol Cymreig.¹ Gwelir hyn yng nghyswllt polisïau Llywodraeth Cymru o ran atal troseddu, yn enwedig troseddu...

  8. Pennod 4 Ysgolheictod Cyfreithiol
    Pennod 4 Ysgolheictod Cyfreithiol (pp. 97-138)

    Yn y flwyddyn 1973, mewn erthygl yn y cylchgrawn cyfraith adnabyddus, yCambrian Law Review, cyflwynodd yr Athro Lee Sheridan ei weledigaeth ar gyfer adran cyfraith newydd yr oedd wrthi’n brysur ei datblygu yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Ar ôl amlinellu ei obeithion ar gyfer yr adran, tua diwedd yr erthygl, dywedodd hyn o eiriau: ‘It will be noticed that I have not said anything that gives a particularly Welsh flavour to the Cardiff Law School. That, I think, is an accurate impression. There is nothing particularly Welsh about the Law.’¹ Wrth gwrs, nid oedd geiriau’r Athro Sheridan, pan...

  9. Pennod 5 Yr Awdurdodaeth Gymreig?
    Pennod 5 Yr Awdurdodaeth Gymreig? (pp. 139-168)

    Yn llenyddiaeth y Bardd Cwsg cawn ddelweddau pur anffafriol o wŷr y gyfraith a’u harferion llygredig ar ddechrau’r ddeunawfed ganrif. Yn ôl Ellis Wynne, cymerai gyfreithwyr fantais ar natur gecrus eu cyd-Gymry, a’u hoffter o ymgyfreitha, gan ymgyfoethogi ar draul eu cleientiaid ffôl. Dim ond damnedigaeth dragwyddol oedd yn iawn ar gyfer y twrneiod twyllodrus ym marn yr offeiriad o Feirionydd ac, meddai’n flin, ‘rhostiwch y cyfreithwyr wrth eu parsmant a’u papurau eu hunain oni ddel eu perfedd dysgedig allan’.¹

    Yn ôl tystiolaeth y Bardd Cwsg, roedd yr ynadon hefyd yn barod i dderbyn cil-dwrn er mwyn sicrhau dyfarniad ffafriol.²...

  10. Nodiadau
    Nodiadau (pp. 169-202)
  11. Llyfryddiaeth
    Llyfryddiaeth (pp. 203-216)
  12. Mynegai
    Mynegai (pp. 217-226)