Brwydr i Baradwys?

Brwydr i Baradwys?: Y Dylanwadau ar Dwf Ysgolion Cymraeg De-Ddwyrain Cymru

Huw S. Thomas
Copyright Date: 2010
Edition: 1
https://www.jstor.org/stable/j.ctt9qhjd5
  • Cite this Item
  • Book Info
    Brwydr i Baradwys?
    Book Description:

    Dadansodda’r gyfrol arloesol hon, am y tro cyntaf erioed, ddylanwadau niferus ar dwf yr Ysgolion Cymraeg, gan godi cwestiynau i finiogi meddwl wrth i Gymru wynebu tonnau newydd o sialensau, ac ysbrydoli eraill i ymaflyd yn yr ymgyrchu dros Ysgolion Cymraeg a’n treftadaeth genedlaethol mewn byd plwralistig a chyfnewidiol.

    eISBN: 978-0-7083-2298-7
    Subjects: Sociology

Table of Contents

  1. Front Matter
    (pp. i-vi)
  2. Table of Contents
    (pp. vii-viii)
  3. Rhagair
    (pp. ix-x)
    Huw Thomas

    Ar gychwyn fy ngyrfa fel athro Lladin yn Ysgol Rhydfelen yn 1966, penderfynais mai’r norm oedd gwneud pob dim yn Gymraeg, ac nad oedd felly ddim byd od ynghylch astudio Lladin drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n amlwg fy mod wedi hoffi sialens erioed, gan nad oedd deunyddiau addas ar gael bryd hynny ar gyfer y disgyblion. Fel gweddill fy nghyd-athrawon, creu eich deunyddiau eich hun oedd yr ateb. Erbyn 1979, â chefnogaeth ymarferol cyd-Glasurwyr ledled Cymru a nawdd Adran Glasurol Urdd y Graddedigion, gwelwyd cyhoeddi yGeiriadur Lladin– Cymraeggan Wasg Prifysgol Cymru.

    Sefydlu Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn Aberbargod...

  4. Cydnabyddiaeth
    (pp. xi-xii)
  5. Byrfoddau
    (pp. xiii-xiv)
  6. Pennod 1 Ysgolion Cymraeg De-ddwyrain Cymru: Trosolwg a Chyflwyniad
    (pp. 1-18)

    Mae gan bob awdur ei gyfansoddiad genetig a’i fagwraeth, ei natur a’i bersonoliaeth, ei deimladau a’i ddaliadau, ei gredo a’i obeithion, ei ddiwylliant a’i hunaniaeth, ei famiaith a’i lais, ei brofiadau a’i addysg, ei wrthrychedd a’i oddrychedd, ei ddisgyblaeth a’i ragfarnau. Anorfod felly nad oes tueddiadau yn amlygu’u hunain mewn astudiaeth sy’n ymwneud yn bennaf â phenderfyniadau pobl, boed gan deuluoedd unigol neu lunwyr polisi, ar lefelau micro, meso neu facro. Priodol felly yw nodi rhai o fy mhenderfyniadau pan oeddwn yn ŵr ifanc, gan eu bod yn adlewyrchu ac yn cydnabod tueddiadau a gogwydd a fedrai effeithio ar wrthrychedd...

  7. Pennod 2 Methodoleg yr Ymchwil Empirig
    (pp. 19-29)

    Ni fydd methodoleg ymchwil o ddiddordeb i bob darllenydd, ond byddai hepgor amlinelliad ohoni yn wendid. Bwriad y bennod hon yw egluro’r fframwaith cysyniadol methodolegol, y paramedrau a ymffurfiodd, a’r manylion egwyddorol, ymarferol a chyfrifyddol wrth brosesu’r corpws data a ddeilliodd o holiaduron a chyfweliadau. Yn anad dim, saernïwyd methodoleg a amlygai’r berthynas rhwng, ar y naill law, agwedd ac ymddygiad ac, ar y llall, gefndir a phenderfyniadau.

    Dylanwadwydmodus operandiyr ymchwil empirig gan y ffaith mai un ymchwilydd a fyddai yn gwneud y gwaith, heb dîm o gynorthwywyr na chyllid mawr yn gefn iddo. Ystyriaeth gynnar oedd pwyso...

  8. Pennod 3 Iaith, Cymdeithas a Chymhellion
    (pp. 30-58)

    Amcan y bennod hon yw disgrifio cefndir ieithyddol a chymdeithasol ysgolion Cymraeg y de-ddwyrain, a nodi rhesymau’r rhieni dros eu dewis. Cyn ystyried eu cefndir ieithyddol, gosodir y siaradwyr yng nghyd-destun siaradwyr Cymru gyfan, yn hanesyddol ac yn gyfredol.

    Mae’r dirywiad yn nifer y siaradwyr a’r rhesymau dros hynny yn hysbys ddigon, a dangosir felly’r tueddiadau yn unig.

    Calonogol yw’r newid tuedd yn ôl data cyfrifiad 2001, fel y dengys Ffigur 3.1 a Thablau 3.2 a 3.3, sy’n gwahaniaethu rhwng y gallu i siarad Cymraeg a’r gallu i’w siarad, darllen a’i hysgrifennu. Gwelir patrwm tebyg yn y ddau gategori, sef...

  9. Pennod 4 Iaith a Hunaniaeth
    (pp. 59-113)

    Mae twf yr ysgolion Cymraeg yn cydredeg â thair ffenomen gyfoes, sef esblygiad yr iaith Gymraeg o ran nifer ei siaradwyr, cynnydd yn yr ymdeimlad o Gymreictod ymhlith trigolion Cymru, a’r grymuso cynyddrannol ym mhwerau Llywodraeth ganolog ym Mae Caerdydd. Y gydddibyniaeth rhwng iaith, hunaniaeth, ac addysg a’m hargyhoeddodd fod astudiaeth feirniadol yn y maes hwn yn allweddol er mwyn deall ffyniant yr ysgolion Cymraeg. Dyna’r rheswm cyntaf pam y rhoddir cryn ofod yn y gyfrol i astudiaeth feirniadol o ddamcaniaethau gwrthdroi shifft ieithyddol (GSI) Fishman, a’u perthnasedd i’r Gymraeg ac i addysg a hunaniaeth Gymreig. Yr ail reswm yw...

  10. Pennod 5 Pŵer
    (pp. 114-176)

    Amcan y bennod hon yw dadansoddi grymoedd pobl a sefydliadau yn y proses o ddylanwadu ar dwf yr ysgolion Cymraeg. Un o brif sialensiau fy ymchwil oedd disgrifio prosesau dynol (micro) yng nghyd-destun polisïau a strwythurau (macro).’ Roeddwn yn awyddus i gadw cydbwysedd rhwng ysgrifennu gwaith academaidd gwrthrychol a phortreadu’r pŵer yn ysbryd ac enaid pobl a’u galluogodd i newid cwrs hanes addysg a’r iaith.

    Defnyddiwyd dau gysyniad fel fframweithiau i saernïo’r dadansoddi a phatrymu hanesion fyddai, fel arall, yn ymddangos yn anecdotaidd. Gobeithir felly y bydd y darllenydd yn dehongli’r dystiolaeth brimaidd fel enghreifftiau o egwyddorion arwyddocaol a amlygir...

  11. Pennod 6 Safonau Academaidd
    (pp. 177-212)

    Ffocws y bennod hon yw safonau academaidd ysgolion Cymraeg deddwyrain Cymru. Rhennir yr astudiaeth yn ddwy brif ran, sef canfyddiadau am y safonau, a mesuriadau gwrthrychol y gellir eu cymhwyso er mwyn arfarnu’r safonau a’r canfyddiadau amdanynt. Bydd canfyddiadau yn creu delwedd – delwedd o safonau uchel yn achos yr ysgolion Cymraeg. Mater arall yw cytuno neu beidio â’r ddelwedd. Er enghraifft, cyfeiria Gorard (1998, 462) at ‘the . . . sustaining myth, that Welsh-medium schools are more effective than their “English” counterparts’. Dadleua (2000, 144): ‘[T] here is an indication that the Welsh-medium schools in south Wales are not especially...

  12. Pennod 7 Y Llinyn Arian yn Ymddatod
    (pp. 213-221)

    Yn y bennod gynderfynol hon fe amlinellir y theses a ddatblygodd ar hyd y gyfrol ynghylch y dylanwadau ar dwf yr ysgolion Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru. Medrech ystyried y bennod hon fel crynodeb o’r gwaith, a disgwyl ei gweld yn cloi’r gyfrol. Ond gan mai o’n blaenau y bydd achubiaeth yr iaith, yn arbennig drwy gyfrwng addysg, pender-fynwyd cloi’r gyfrol yn edrych tua’r dyfodol. Gosodwyd yr ysgolion Cymraeg ar seiliau cadarn, ond mae angen ton arall o ddatblygu. Agweddau ar amryw bwerau yw sail pob un thesis, a’r llinyn arian cysyniadol drwy’r gyfrol yw’r prif thesis, sef mai cydadwaith a...

  13. Pennod 8 Y Dyfodol
    (pp. 222-256)

    Yn y bennod glo, trafodir agweddau allweddol er mwyn gweld cynnydd pellach o ran yr iaith ac addysg Gymraeg. Fe’u trefnir yn ôl lefelau micro, meso a macro. Dehonglir micro fel yr actorion a’r materion sydd o bwys uniongyrchol iddynt; meso yw’r cynllunio ar gyfer normaleiddio; a macro yw’r strwythuroliaeth a’r llywodraethiant ar lefelau byd-eang neu egwyddorol.

    ‘I believe that the greater portion [of parents] already see the immense advantage of bilingual instruction, and that the number will increase daily with the spread of information.’ Yn 1887 yr ysgrifennwyd y geiriau hyn, gan Dan Isaac Davies (Hughes, 1984, 206, 134)....

  14. Atodiadau
    (pp. 257-320)
  15. Llyfryddiaeth
    (pp. 321-350)
  16. Mynegai
    (pp. 351-374)